OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 872 (Cy. 86)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau Contractau GDS”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau Cytundebau PDS”).
Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Contractau GDS ac Atodlen 2 i’r Rheoliadau Cytundebau PDS, mewn perthynas â dyrannu unedau o weithgaredd deintyddol rhwng contractwyr pan atgyfeirir claf am driniaeth orfodol uwch. Yr effaith yw sicrhau nad yw’r cyfrifiad o’r unedau o weithgaredd deintyddol y mae pob contractwr yn ymgymryd ag ef, ac felly y telir iddynt amdano, ond yn ymwneud â’r gweithgaredd deintyddol y maent yn ymgymryd ag ef mewn gwirionedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 872 (Cy. 86)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 31 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad 1 Ebrill 2014
Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym 1 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 61, 66 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau
Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol
Personol) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 1 Mai 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006
2. Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006([2]) (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Where a patient is referred by the contractor for advanced mandatory services to another provider of primary dental services, the appropriate number of units of dental activity provided by—
(a) that contractor; and
(b) the other provider of primary dental services, if that provider is also a contractor,
must be calculated on the basis of the components of the course of treatment which they actually provide, notwithstanding that the treatment constitutes a single banded course of treatment for charging purposes.”.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006
3. Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006([3]) (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Where a patient is referred by the contractor for advanced mandatory services to another provider of primary dental services, the appropriate number of units of dental activity provided by—
(a) that contractor; and
(b) the other provider of primary dental services, if that provider is also a contractor,
must be calculated on the basis of the components of the course of treatment which they actually provide, notwithstanding that the treatment constitutes a single banded course of treatment for charging purposes.”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Mawrth 2014